Fforwm Hanes Cymru

Yn cyd-gysylltu hanes Cymru

Welsh Flag

History Forum for Wales

Co-ordinating the history of Wales

 

site designed & maintained by
www.cddweb.co.uk
Hywel Dda

Hywel Dda Centre

Whitland

Canolfan Hywel Dda

Hendy-Gwyn

Hywel Dda and the Law

Hywel Dda was born towards the end of the 9th century. In 928 AD he made a pilgrimage to Rome and by 942 AD ruled over most of the country and claimed the title "King of all Wales". He then summoned representatives from each commote in Wales to an assembly at "The White House on the Taf in Dyfed" for the purpose of codifying the laws. This legal system became known for its wisdom and justice and was in force in Wales until the Act of Union with England in 1536.

Hywel Dda a’r Gyfraith

Ganwyd Hywel Dda tua diwedd y nawfed ganrif.Yn 928 OC aeth ar bererindod i Rufain ac erbyn 942 OC rheolai dros y rhan fwyaf or wlad a hawlio'r teiti "Brenin Cymru Oll". Galwodd gynrychiolwyr o bob cwmwd yng Nghymru i'r'Ty Gwyn ar Daf yn Nyfed” er mwyn cyfundrefnu’r cyfreithiau. Bu’r Gyfraith hon, a ddaeth yn enwog am ei doethineb a'i chyfiawnder, mewn grym yng Nghymru hyd y Ddeddf Uno gyda Lloegr ym 1536.

The Memorial

The Memorial, in the centre of Whitland, consists of six gardens, each representing a separate division of the Law. The laws are illustrated on slate plaques illuminated with enamels, in brick pavements, and in the planting scheme based on Celtic tree symbolism.

Y Gofeb

Mae'r gofeb, sydd i'w gweld ynghanol Hendy-gwyn, yn cynnwys chwech o erddi, gyda phob un ohonynt yn cynrychioli rhan arbennig or Gyfraith. Darluniwyd y cyfreithiau ar blaciau o lechi sydd wedi eu goliwio mewn enamel, mewn palmentydd brics ac yn y cynllun plannu sy'n seiliedig ar symbolaeth goed y Celtiaid.

The gardens surrounding the Information Centre are planted with specimens symbolic of medieval Wales. The designs include artwork such as etched and stained glass, ceramics, iron work and enamels, which re-emphasise the Celtic tree symbolism of the gardens.

Plannwyd y gerddi sy'n amgylchynu'r Ganolfan Wybodaeth gan rywogaethau o blanhigion sy’n dynodi Cymru yn ystod yr Oesoedd Canol. Mae'r dyluniadau'n cynnwys gwaith celt megis gwydr ysgythrog a gwydr Iliw, cerameg, gwaith haearn ac enamelau, sy'n ail-danlinellu symbolaeth goed y Celtiaid sy'n nodweddu'r gerddi.

The Information Centre

The Hywel Dda Centre is an ideal venue for meetings, educational classes, lectures and exhibitions, as well as school and college visits. An activity pack for school is available at the Centre. Please contact 01994 240867

Y Ganolfan Wybodaeth

Mae Canolfan Hywel Dda yn fan delfrydol ar gyfer cyfarfodydd, dosbarthiadau addysgol, darlithoedd ac arddangosfeydd, yn ogystal ag ymweliadau ysgol a choleg. Mae pecyn gweithgaredd ar gyfer ysgolion ar gael yn y ganolfan. Cysylltwch os gwelwch yn dda â ni ar 01994 240867.

Opening Times:

Tuesday – Saturday

10am – 1pm & 2pm - 5pm during the summer months.

Pre-arranged guided tours are welcomed throughout the year.
Contact 01994 240867

Amserau Agor:

Dydd Mawrth – Dydd Sadwrn

10yb – 1yp a 2yp – 5yp yn ystod misoedd yr haf.

Croesawir theithau dan arweiniad, wedi eu trefnu ymlaen llaw, drwy gydol y flwyddyn. Cysylltwch â 01994 240867
top | back